Rhif y ddeiseb: P-06-1363

Teitl y ddeiseb: Achubwch ein Gwasanaeth Tân ac Achub

Geiriad y ddeiseb:  Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, ynghyd â’r Awdurdod Tân, yn bwriadu israddio gorsafoedd Y Rhyl a Glannau Dyfrdwy o orsafoedd 24 awr i orsafoedd sydd wedi’u staffio yn ystod y dydd, gan adael y gorsafoedd yn wag gyda’r nos. Ar hyn o bryd, mae tair gorsaf amser llawn yng ngogledd Cymru, sef Wrecsam, Glannau Dyfrdwy a’r Rhyl. Mae staff yno 24 awr o’r dydd, 7 diwrnod yr wythnos. O dan y cynigion presennol, gall Y Rhyl a Glannau Dyfrdwy gael eu hisraddio i orsafoedd sydd â staff neu griw yno yn ystod y dydd yn unig, gan ddibynnu ar bersonél ar alw yn ymateb o’u cartrefi gyda’r nos.  Rhagwelir y gallai fod 8-10 munud o oedi wrth gyrraedd digwyddiad. Mewn tân, mae pob eiliad yn bwysig, a bydd hyn yn sicr o achosi anafiadau, a hyd yn oed marwolaethau.

 

 

 


1.        Cefndir

Yng Nghymru, Hannah Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, sy’n gyfrifol am wasanaethau tân ac achub. Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am oruchwylio’r broses o weithredu a rheoli gwasanaethau tân ac achub. Mae’n pennu polisi a strategaeth ym maes gwasanaethau tân ac achub, yn dyrannu cyllid, ac yn sicrhau bod gan wasanaethau gyfarpar digonol a’u bod yn barod i ymateb i argyfyngau, gan gynnwys tanau, damweiniau traffig ar y ffyrdd a digwyddiadau eraill.

Yr Awdurdod Tân ac Achub sy’n gyfrifol am reoli gwasanaethau tân ac achub o ddydd i ddydd, ac mae’r awdurdod hwnnw’n gweithredu o dan gyfarwyddyd a pholisïau a bennir gan Lywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd, mae tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru, sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau tân ac achub yn eu rhanbarthau priodol:

§  Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

§  Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru

§  Awdurdod Tân ac Achub De Cymru

O dan adran 21 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004, rhaid i Weinidogion Cymru baratoi Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub a pharhau i adolygu’r fframwaith hwnnw. Rhaid i'r fframwaith nodi blaenoriaethau ac amcanion yr awdurdodau tân ac achub. Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub Cymru 2016 yw’r fframwaith presennol.

Rhaid i’r awdurdodau tân ac achub roi sylw i’r fframwaith cenedlaethol wrth gyflawni eu swyddogaethau (o dan adran 21(7) o Ddeddf 2004), a chaiff Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal arolygiad i wirio a yw awdurdod yn cydymffurfio â’r gofyniad hwn (gweler  Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, adran 24).

Ymgynghoriad gan Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru

Ar 21 Gorffennaf 2023, lansiodd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch y broses o ddarparu gwasanaethau brys yn y dyfodol yng Ngogledd Cymru. Cafodd yr ymgynghoriad ei gau ar 22 Medi 2023. Nid oes penderfyniad wedi'i wneud ar y mater hwn eto. Mae tri opsiwn gwahanol wedi'u cynnig.

 

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.